Tatws Pink Fir Apple yw’r rhain; math traddodiadol, hir a chnyciog gyda chroen pinc a chnawd hufenog, melyn. Mae blas cneuog a bendigedig iddynt a’r ffordd orau i’w coginio yw eu berwi yn eu crwyn. Tatws hyfryd wedi eu berwi, stemio, pobi neu mewn saladau…ac yn ein siopau fferm yn awr!