Mae gennym amrywiaeth o hamperau o amrywiol faint sydd ar gael i’w prynu wedi’u gwneud yn barod, neu beth am ddod atom a dewis eich cynhwysion eich hunain ac fe wnawn ni eu troi’n hamper i chi. Neu beth am brynu Taleb Rhodd Hooton’s Homegrown i rywun a gadael iddynt ddewis pethau eu hunain…ar gael fesul £5, £10 ac £20, ac yn ddilys am flwyddyn o’r dyddiad prynu, ac i’w wario yn ein naill Siop Fferm ac yn ein Caffi. Syniadau perffaith i unrhyw un sy’n mwynhau bwyd da!