Dathlwch y Nadolig…Yn Ffres o’r Fferm!

Mae hi’n amser archebu eich twrci Nadolig a chigoedd eraill! Piciwch i mewn i’r siop, neu ffoniwch ni, i drafod eich anghenion.

Mae ein holl gigoedd cartref ar gael sef Tyrcwn Efydd maes, cig eidion du Cymreig, Porc a Chig Oen, hamiau a chig moch wedi eu halltu, selsig ar ffyn a chig selsig, yn ogystal â stwffin, llysiau tymhorol ffres, cacennau a phwdinau Nadolig…a llawer mwy!

A beth am roi hamper Nadolig neu daleb rhodd…maent yn anrhegion perffaith i unrhyw un sy’n hoff o’i fwyd! Mae gennym ddetholiad o hamperi i’w dewis, neu gallwch ddewis eich cynhwysion eich hun a gallwn roi’r cyfan at ei gilydd ar eich cyfer. Gallwn hefyd ddanfon i unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

Y cyfan ar gael i’w archebu nawr!

Scroll to Top