Cylchlythyr y Gwanwyn

Mae ein gwefan newydd sbon i’w gweld yn awr!

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed gyda Dylan Jones o D13 Creative ac mae ein gwefan newydd bellach ar gael! www.hootonshomegrown.co.uk Gwybodaeth lawn ynglŷn â beth sydd yn ei dymor, cynnyrch newydd ar gael ac ati, gallwch brynu ein Taleb Rhodd ar-lein hefyd a threfnu i’w cael wedi ei gyrru at unrhyw un. Dyna syniad da. Byddwn yn diweddaru ein gwefan gyda newyddion a storïau….felly cliciwch ar y wefan yn aml!

Handmade Easter Chocolate

Pasg a Siocled

Daw’r Pasg erbyn diwedd mis Mawrth, ac mae gennym wyau Pasg a siocled godidog wedi eu gwneud â llaw gan wneuthurwyr siocled Cocoaroma o Ynys Môn. Wyau Pasg a bwnis siocled hufennog blasus, ar gyfer y plant a’r oedolion hefyd! Mae gormod o ddewis!

Hilltop Honey at Hooton's Farm Shop

Cynnyrch Newydd

Bydd gennym gynnyrch newydd arbennig acw y tymor hwn….Mêl Cymreig o Hilltop Honey, Powys, Chorizo o Charcuterie Fferm Trealy yn Sir Fynwy, a ham wedi ei goginio a hummus cartref o Lanrwst. Rhaid i chi ddod draw!

Homegrown fruit and veg

Llysiau a Ffrwythau’r Tymor Newydd

Gyda lwc bydd heulwen cynnes y Gwanwyn yn deffro ein llysiau a’n ffrwythau cyn hir….fe ddylai ein riwbob fod yn barod i’w gasglu erbyn diwedd mis Mawrth, ac yna buan iawn y daw ein hasbaragws. Mae gennym fintys a dyfwyd yma hefyd, sy’n golygu y llwyddom i wneud digonedd o’n jeli Mintys ac Afal blasys…i’w brofi gyda chig oen!

Welsh Black Beef at Hooton's Farm Shop

Archebion Cig dros y Pasg

Gallwch archebu eich cig ar gyfer y Pasg drwy ein ffonio ar 01248 430644, neu lenwi’r ffurflen ebost ar ein gwefan www.hootonshomegrown.co.uk. Mae gennym ddarnau bendigedig o Gig Eidion Du Cymreig, cig oen a phorc cartref, ein cywion ieir maes a gini sydd wedi ennill gwobrau…yn ogystal â hamiau, selsig a bacwn.

UK Summertime

Bownsiwch i mewn i’r Gwanwyn!

Cofiwch droi yr awr ymlaen 2am ar ddydd Sul 31ain o Fawrth….cawn olau fin nos o’r diwedd! Golyga hyn y bydd ein horiau agor yn newid hefyd ar gyfer yr haf…byddwn ar agor hyd at 5.30pm ar ddydd Sul o’r 31ain (y caffi ar agor tan 5pm)

Farm Shop Cafe

Caffi’r Siop Fferm

Mae ein caffi yn ffordd o ddangos ein bwyd. Dewiswch gawl cartref blasus, neu fyrbrydau poeth, brecwast neu saladau….a chacennau a phwdinau cartref! Dewch i ymuno â ni ar gyfer cinio dydd Sul yr wythnos….cofiwch archebu lle, mae hi’n lllawn dop yma fel arfer! Ffoniwch ni ar 01248 430644, nid oes gennym drwydded alcohol ond mae croeso i chi ddod â photel efo chi!

 

 

 

 

 

Scroll to Top