Dyma ni yn derby nein gwobr ‘Countryside Alliance’ fel pencampwr Cymru- Bwyd Lleol gan John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd, yn y Senedd ddydd Mercher diwethaf Ionawr 30ain. Diolch yn fawr iawn i chi, ein cwsmeriaid am ein henwebu am y wobr yma….. ac am werthfawrogi a mwynhau bwyta bwyd ffres a lleol. Roedd yn noson arbennig, ac emosiynol!
Rydym wedi dechrau “Cyfnewidfa Lyfrau” yn y caffi…. dewch a llyfr ydych wedi ei ddarllen a’i newid am un arall! Gallwch eistedd mewn a darllen gyda phaned a thamaid o deisen cartref….Mmm!
Mae yna ambell aelod newydd ar y fferm… wyn newydd anedig! Mae rhai yn ychydig ddyddiau oed, ac mae sawl un i’w eni eto. Suffolk wedi croesi a phennau duon.
Llysiau Ffres yn eu tymor
Moron, betys, rwdan, ‘celeriac’, cennin, gellyg, ysgewyll, ‘chard’, bresych coch a savoy, bresych deiliog ac ‘artichokes jeriwsalem. Mae ganddom rysetiau arbennig yma ar y wefan, ac yn y siop…… i’r rheiny ohonoch sydd angen ysbrydoliaeth goginio!
Mae sioe Sianel 4 “Come Dine With Me” yn dychwelyd am gyfres newydd, ac yn chwilio am unigolion dros 18oed yn ardal Bangor ac Ynys Món. Gallwch ennill £1,000! I geisio, cysylltwch a 0871 200 3939 a gadael eich manylion. Os oes arnoch angen help gyda’ch bwydlen, galwch mewn i’n gweld!