I’w baratoi
I’w coginio yn gyfan…golchwch ond peidiwch â’u plicio
Torrwch y coesynnau i oddeutu 2.5cm (gan adael y gwraidd yn y gwaelod)
Pobwch mewn popty isel am 2-3 awr, wedi’u lapio mewn ffoil neu mewn ychydig bach o ddwr mewn dysgl gaserol â chaead
Fel arall, ewch ati i’w paratoi yn yr un modd, a’u mudferwi am awr
A wyddech chi?
Hwythau’n llawn nitradau, mae gostwng pwysedd gwaed a chynyddu stamina ymhlith rhai’n unig o fanteision yfed sudd betys.