Wel am haf arbennig a gawsom! Yn ogystal â gweld ein hollymwelwyr rheolaidd, braf oedd croesawu nifer o dwristiaid i’n siop fferm…pawb yn dymuno profi’r dewis eang o gynnyrch blasus sydd ar gael yng Ngogledd Cymru. Rydym mor lwcus cael bwyd mor fendigedig ar stepen ein drws!
Daeth cannoedd ohonoch i fwynhau Gwyl Bwyd Môr y Fenai rai wythnosau yn ôl…a chawsom ddiwrnod bendigedig. Roedd hyd yn oed y tywydd ar ei orau. Prynwyd mwy o fefus nag erioed o’r blaen gyda James a Mr Hooton yn gorfod cario rhagor drwy’r dyrfa gydol y prynhawn! Gwyl wych…a phawb wedi mwynhau.
Cafwyd cnwd afalau ardderchog eleni, ac mae ein sudd afal ar gael yn awr yn y siop fferm! Sudd blasus i dorri’r syched, ar gael mewn dau fath, Katy a Discovery…a rhagor ar y gweill!
Rydym wedi bod yn tyfu mathau arbennig o datws eleni, ac mae’r Pink Fir Apple a’r Mayan Gold ar gael yn y fferm siop yn awr. Tatws Pink Fir Apple yw’r rhain; math traddodiadol, hir a chnyciog gyda chroen pinc a chnawd hufenog, melyn. Mae blas cneuog a bendigedig iddynt a’r ffordd orau i’w coginio yw eu berwi yn eu crwyn. Tatws hyfryd wedi eu berwi, stemio, pobi neu mewn saladau. Daw’r daten Mayan Gold o fryniau isel yr Andes ym Mheriw, gyda lliw euraidd a blas eithaf cneuog y pridd; delfrydol ar gyfer gwneud sglodion neu ei rhostio a does dim angen ei berwi’n gyntaf.
Bu dipyn o arbrofi yma’n ddiweddar, gan greu blasau jam newydd…a defnyddio mefus fel prif flas…felly gallwch yn awr brynu jam Mefus a Mint, Mefus a Siocled a hyd yn oed Siocled Gwyn!
Bydd ein tatws, ffa, moron, ffa dringo, afalau, mefus, garlleg, tsilis, betys, rwdan, kale, pwmpenni, gorfetys, a’n yn barod i’w casglu ac yn y siop fferm awr.