Ymweliad o’r Eidal

Cawsom ymweliad yr wythnos ddiwethaf gan 21 o fyfyrwyr Eidalaidd o Twsgani!

Roedd y myfyrwyr busnes yn aros yn Abergele, ac yn awyddus i ymweld ag ychydig o fusnesau lleol i gael gweld sut roeddynt yn cael eu rheoli a’u marchnata. Mae ganddynt ddiddordeb penodol yn y Slow Food Movement sydd yn sefydliad byd eang yn gweithio i ailgysylltu pobl gyda tharddiad eu bwyd a sut y’i cynhyrchir. Maent yn annog pobl i ddewis bwyd maethlon a blasus iawn yn lleol.

Cawsom gyfle i dywys y myfyrwyr o amgylch y fferm a’r siop, gan egluro sut mae pethau’n gweithio, ac yna rhoi tasg farchnata iddynt, i greu a marchnata cynnyrch sy’n cynnwys garlleg, ac roeddynt wrth eu boddau yn gwneud hyn a chael canlyniadau gwych!

Roedd yn hynod o ddiddorol ac yn llawn hwyl, a braf oedd gweld y myfyrwyr a ninnau’n elwa o’r ymweliad.

Scroll to Top