Dewch i flasu gwir flas Cymru gydag Hamper yn llawn o’r cynhyrchion Cymreig gorau posib.
Mae gennym amrywiaeth o hamperau o amrywiol faint, gan gynnwys ein hamper fwyaf, o’r enw ‘Ynys Môn’, sydd ar gael i’w prynu wedi’u gwneud yn barod, neu beth am ddod atom a dewis eich cynhwysion eich hunain ac fe wnawn ni eu troi’n hamper i chi. Gallwch archebu hamperi hefyd i’w danfon i unrhyw le yn y Deyrnas Unedig… gyrrwch fanylion eich dewis atom mewn e-bost ar ein tudalen cyswllt, a gallwn gysylltu â chi i gadarnhau’r archeb ac i gymryd eich taliad dros y ffôn.
Neu beth am brynu Taleb Rhodd Hooton’s Homegrown i rywun a gadael iddynt ddewis pethau eu hunain…ar gael fesul £5, £10 ac £20, ac yn ddilys am flwyddyn o’r dyddiad prynu, ac i’w wario yn ein naill Siop Fferm ac yn ein Caffi. Mae’r talebau ar gael i’w prynu yn y siop neu ar-lein. Darllenwch ein Amodau a Thelerau Taleb Rhodd.
Syniadau perffaith i unrhyw un sy’n mwynhau bwyd da!
I’r bobl lwcus hynny sy’n dod ar eu gwyliau i Ogledd Cymru brydferth, gallwn ddarparu bocs groeso o gynhyrchion lleol blasus i gychwyn eich gwyliau. Mae ein Bocs Brecwast yn cynnwys Bacwn cartref wedi’i halltu, Wyau Ynys Môn, Bara wedi’i bobi’n lleol, Menyn Cymreig, Jam a Marmaled Cartref, Bara Brith a Theisennau Cri Cartref, Llefrith, Sudd Afal, Bagiau Te Cymreig a Choffi Dwyfor. Gallwch ei archebu drwy anfon neges e-bost atom neu dros y ffôn.
Archebu Thalebau Hooton’s Homegrown
[gravityform id=”3″ name=”Buy Gift Vouchers Online” title=”false” description=”false”]